Carwyn dros Lafur

Diolch

Diolch i chi gyd!

Posted on 12/02/2009 in Arweinyddiaeth, Cymru, Llafur | Permalink | Comments (0)

| Digg This | Save to del.icio.us |

Amser i Arwain

Mae Carwyn wedi cyhoeddi Maniffesto.

Posted on 11/02/2009 in Polisi | Permalink | Comments (0) | TrackBack (0)

| Digg This | Save to del.icio.us |

Castellnedd dros Carwyn

Welwch fideo Howard Davies fanhyn

Posted on 10/27/2009 in Uncategorized | Permalink | Comments (0) | TrackBack (0)

| Digg This | Save to del.icio.us |

Dw'i'n cefnogi Carwyn


Posted on 10/25/2009 in Fideo | Permalink | Comments (0) | TrackBack (0)

| Digg This | Save to del.icio.us |

Amser i ddweud y gwir - am newid hinsawdd

Mae Carwyn yn ymweld a Wylfa heddiw. Mae e wedi gwneud datganiad pwysig y bore'ma.

Posted on 10/24/2009 in Amgylchedd, Llafur, Polisi, Ynni | Permalink | Comments (0) | TrackBack (0)

| Digg This | Save to del.icio.us |

Dyddiadur Carwyn

Ar ddiwedd yr ail wythnos, rydw i wedi fy mhlesio gan y lefel o gefnogaeth ledled Cymru. Diolch i bawb a atebodd yr e-bost anfonwn yn ystod yr wythnos. Roeddwn yn hapus iawn i ennill enwebiad Unsain ar Ddydd Gwener, a hefyd yr enwebiadau oddiwrth Wrecsam ac Alyn & Glannau Dyfrdwy yn y Gogledd, ac Ogwr yn y Cymoedd. Bydd mwy o etholaethau yn enwebu yn ystod yr wythnos hon. Ar Ddydd Mawrth, bydd y tri ymgeisydd yn cwrdd i ddadl yn Aberafan am y tro cyntaf. Rydw i’n edrych ymlaen at y ddadl!

Posted on 10/19/2009 in Arweinyddiaeth, Cymru, Llafur | Permalink | Comments (0) | TrackBack (0)

| Digg This | Save to del.icio.us |

Mwyafrif sylweddol Aelodau Seneddol Llafur yn y Gogledd yn cefnogi Carwyn dros yr Arweinyddiaeth

Derbynnodd Carwyn Jones hwb sylweddol yn ei frwydr i olynu Rhodri Morgan fel Arweinydd Llafur Cymru wrth i chwech allan o saith Aelod Seneddol yng Ngogledd Cymru cyhoeddi eu cefnogaeth. Mae’r gefnogaeth fwyafrifol yn y Gogledd yn dod diwrnodau cyn y dyddiad cau ar ddydd Iau (22 Hydref) ar gyfer enwebiadau oddi wrth Aelodau Seneddol y Blaid - sector pwysig o'r coleg etholaethol sydd yn dewis yr enillydd. Mae’r enwebiadau yn dangos yn glir fod Carwyn yn denu cefnogaeth fwyaf eang ar draws Cymru – yn fwy eang na’r ymgeisydd eraill. Yr Aelodau Seneddol sydd wedi enwebu Carwyn yw: David Hanson, AS Delyn (Gweinidog yn y Swyddfa Gartref dros yr Heddlu a Throsedd) Ian Lucas, AS Wrecsam (Gweinidog dros Fusnes) Albert Owen, AS Ynys Môn Chris Ruane, AS Dyffryn Clwyd (Cadeirydd, Grŵp ASau Lafur Gogledd Cymru) Mark Tami, AS Alyn a Glannau Dyfrdwy (Chwip Llywodraethol) Betty Williams, AS Conwy Yn siarad ynglyn a'u chefnogaeth ar gyfer Carwyn, dywedodd Chris Ruane: "Dwi'n cefnogi Carwyn achos fe fydd y person gorau i uno Cymru gyfan – yn enwedig Gogledd Cymru. Mae'r ffaith fod ganddo gefnogaeth mwyafrif sylweddol ASau Llafur ar draws Gogledd Cymru – o Gaergybi i Lannau Dyfrdwy – yn arwyddocaol." Wrth gynnig eu henwebiad i Carwyn, dywedodd Albert Owen AS: "Byddai'n cefnogi Carwyn yn yr etholiad dros yr Arweinyddiaeth achos dwi’n credu fe yw’r person i fynegi egwyddorion Llafur ar draws y wlad. Mae'[n rhaid i ni symud ymlaen, ac mae’r rhaid cael apêl eang. Rhaid ystyried yr etholaeth yn y wlad yn gystal ag etholaeth y Blaid Lafur. Mae gan Carwyn sgiliau arweinyddol a dyna pam byddai’n cefnogi fe." Dywedodd Leighton Andrews, Rheolwr Ymgyrch CarwynDrosLafur: "Mae cefnogwyr ym mhob adran o’r blaid ac ar draws y wlad wedi croesawi weledigaeth Carwyn dros gyfeiriad y Blaid Lafur yn y dyfodol. Fe fydd Carwyn yn arweinydd dros Gymru gyfan. Mae’r adeiladu cefnogaeth gref ymhob cornel o’r wlad, ac rydym yn sicr fydd y momentwm hwn yn parhau dros y dyddiau nesaf."

Posted on 10/19/2009 in Cymru, Llafur, Uncategorized | Permalink | Comments (0) | TrackBack (0)

| Digg This | Save to del.icio.us |

Mae Aelodau Seneddol yn cefnogi Carwyn

Mae chwech Aelodau Seneddol o'r Gogledd yn cefnogi Carwyn. Dyma neges oddi wrth Albert Owen AS: [youtube=http://www.youtube.com/watch?v=bac4Aw606BU&hl=en&fs=1&rel=0&color1=0x5d1719&color2=0xcd311b&border=1]

Posted on 10/19/2009 in Arweinyddiaeth, Cymru, Llafur | Permalink | Comments (0) | TrackBack (0)

| Digg This | Save to del.icio.us |

Digwyddiad Rhyngwladol Unsain

Trefnodd yr undeb Unison / Unsain digwyddiad bendigedig yn y Cynulliad neithiwr, gyda Llysgenhadwyr o Venezuela a Cuba. Ar adegau, rydym yn anghofio’r gwaith rhyngwladol mae ein hundebau yn eu gwneud. Mae Unsain wedi sefydlu perthnasau cryf gydag undebau rhyngwladol, yn cynnwys De America, a mynychwyd y digwyddiad gan nifer o Aelodau’r Cynulliad a swyddogion Unsain. Dylwn ni ymfalchïo yn y gwaith mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gwneud yn rhyngwladol, yn cynnwys y rhaglen ‘Cymru o blaid Affrica’, ond atgoffon ni neithiwr am heriau eraill ar draws y byd.

Posted on 10/16/2009 in Cymru, Llafur | Permalink | Comments (0) | TrackBack (0)

| Digg This | Save to del.icio.us |

Gwefan newydd Llafur Cymru

Mae Llafur Cymru wedi cyhoeddi gwefan newydd ynglŷn â'r ymgyrch. Gellir lawrlwythio fy natganiad yma.

Posted on 10/16/2009 in Arweinyddiaeth, Cymru, Llafur | Permalink | Comments (0) | TrackBack (0)

| Digg This | Save to del.icio.us |

Next »

Cymdeithasu

Maniffesto

Archives

  • December 2009
  • November 2009
  • October 2009

Hyrwyddwyd a Chyhoeddwyd gan Mick Antoniw ar rhan Carwyn Dros Lafur, Ty Regus, Falcon Drive, Caerdydd CF10 4RU